Rhif y ddeiseb: P-05-1442

Teitl y ddeiseb: Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd

Geiriad y ddeiseb:  Rydym yn galw am y canlynol:

Gweithredu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd, ni waeth beth fo'u gofynion dietegol o ran alergeddau, crefydd neu resymau personol.

Sicrhau, hyd y gellir, fod y prydau ysgol am ddim yn dod o ffynonellau moesegol a chynaliadwy, a bod hawliau gweithwyr yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu diogelu.

Annog pob ysgol i gael cegin o ansawdd dda ar y safle sy’n gwneud bwyd ffres pryd bynnag y bo modd a, phan na fo modd, fod cyflenwyr yn defnyddio cynnyrch ffres a lleol.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021, cyflwynwyd prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae gwneud hyn wedi bwydo degau o filoedd o blant ifanc y mae llawer ohonynt mewn tlodi, ac mae wedi lleihau yn aruthrol y stigma ynghylch derbyn y prydau bwyd hyn. Rhaid i fwydo plant fod yn flaenoriaeth wleidyddol bob amser.

Mae'n bryd i hyn fynd yn ei flaen. Yn ôl y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, mae 19% – sef tua 25,000 – o blant mewn tlodi yn dal i fod heb fynediad at brydau ysgol am ddim oherwydd y profion modd mewn ysgolion uwchradd. Mae risg y byddan nhw’n mynd heb fwyd, ac mae Ymddiriedolaeth Trussell yn amcangyfrif bod 20% o oedolion yng Nghymru yn profi ansicrwydd bwyd.

Yn ogystal, credwn fod modd, a bod rhaid, i brydau ysgol am ddim i holl blant gael eu defnyddio i addysgu, gan gynnwys addysgu economeg y cartref yng Nghymru a hyrwyddo gwerth am arian a diet iach yn enwedig, ynghyd â ffynonellau lleol, moesegol a chynaliadwy, fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.


1.        Y cefndir

1.1.            Hawl i gael prydau ysgol am ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddysgwyr cymwys sy'n mynd i ysgol a gynhelir ar sail amser llawn. Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhiant (neu’r dysgwr yn ei rinwedd ei hun) yn cael budd-daliadau penodol:

§    Chymhorthdal Incwm

§    Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

§    Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

§    Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

§    Elfen wedi’i gwarantu o Gredyd Pensiwn

§    Credyd Treth Plant (cyn belled nad yw rhieni hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith a bod eu hincwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth)

§    Credyd Treth Gwaith dilynol (a delir am 4 wythnos ar ôl i rieni beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith)

§    Credyd Cynhwysol (cyn belled â bod incwm net blynyddol y cartref yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau).

Ym mis Ionawr 2023, roedd 44,530 o ddisgyblion ysgol uwchradd (25.5 y cant) yn cael prydau ysgol am ddim (gan gynnwys y rhai nad oeddent bellach yn gymwys ac eithrio drwy dderbyn amddiffyniad wrth bontio). Mae’r ffigur hwn yn ymwneud â’r dysgwyr hynny sy’n gymwys ac sydd wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim. Mae'n rhaid i deuluoedd wneud cais am brydau ysgol am ddim a gallai fod dysgwyr y gallai eu teuluoedd fod yn gymwys ond nad ydynt wedi manteisio ar eu hawl.

1.2.          Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Yn 2017, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi gyda’r nod o sicrhau bod gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi’n foesegol ac yn unol â chyfreithiau’r DU, yr UE a chyfreithiau rhyngwladol. Mae’n ymdrin â materion cyflogaeth, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol, cosbrestru, a hunangyflogaeth ffug (hynny yw, gweithredu fel cyflogai ond heb gontract cyflogaeth).  Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Cod.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

O fis Medi 2022, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, dechreuodd Llywodraeth Cymru ariannu awdurdodau lleol i gyflwyno eu cynnig o brydau ysgol gynradd am ddim i bawb, gan ddechrau gyda'r dysgwyr mewn dosbarthiadau Derbyn. Bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oedran meithrin sy’n mynd i ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod 20 o’r 22 o awdurdodau lleol wedi cwblhau’r broses o gyflwyno’r rhaglen ac y bydd y ddau arall (Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe) yn ei gwblhau drwy ymestyn i Flwyddyn 6 o fis Medi eleni.

Mae
Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £200 miliwn o refeniw dros dair blynedd (£40m ar gyfer 2022-23, £70m ar gyfer 2023-24 a £90m yn 2024-25) i gefnogi’r cynllun.  Mae hefyd wedi dyrannu £60 miliwn o gyfalaf dros ddwy flynedd (£25m yn 2021-22 a £35m yn 2022-23) i gefnogi gwelliannau i gyfleusterau ceginau ysgolion, gan gynnwys prynu offer a diweddaru systemau digidol. Roedd Plaid Cymru am ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd, er nad oedd hyn byth yn rhan o’r Cytundeb Cydweithredu fel yr eglurodd yr Arweinydd ar y pryd i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym mis Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, fe’i nodwyd yn y papur ar y cyd ar gyllideb 2024-25 fel maes blaenoriaeth i Blaid Cymru pe bai unrhyw gyllid pellach ar gael gan Lywodraeth y DU.

3.     Camau gweithredu’r Senedd

Rhwng mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru. Gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y deisebydd ar ganlyniad llwyddiannus gan fod Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Cydnabu’r Pwyllgor mai galwad gyffredinol y deisebydd oedd i bob disgybl ysgol gael prydau ysgol am ddim, ac awgrymodd fod hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw. Cafodd y ddeiseb ei chau, felly.

4.     Rhagor o wybodaeth

Cyflwynwyd hawl cyffredinol i brydau ysgol am ddim ledled yr Alban yn 2015, ar gyfer pob disgybl yng ngrwpiau blwyddyn Cynradd 1 i Gynradd 3. Estynnwyd hyn i bob disgybl yn P4 ym mis Awst 2021, ac yna i bob disgybl yn P5 ym mis Ionawr 2022.  Mae'r cynllun yn cynnwys dysgwyr 5-9 oed.  Yn Lloegr, mae prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu ar hyn o bryd i bob plentyn yn y dosbarth derbyn hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn Dau (4-7 oed). 

Gan fod prydau ysgol am ddim i bawb wedi'u cyfyngu i blant iau, ychydig o lenyddiaeth sydd ar gael ar ddichonoldeb a’r dull gweithredu ar gyfer cyflwyno’r polisi i fyfyrwyr hŷn.  Cynhaliwyd prosiect ymchwil ar raddfa fach mewn dwy ysgol uwchradd ym Mwrdeistref Hammersmith a Fulham yn Llundain yn 2020 i ystyried y manteision posibl i ddisgyblion a’u haelwydydd, a rhwystrau posibl. Nid oedd yn edrych ar effeithiolrwydd na chost effeithiolrwydd prydau ysgol am ddim i bawb.

Canfu’r ymchwil fod prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion uwchradd yn ymyriad ymarferol a derbyniol, a’i fod yn cynyddu mynediad at brydau iach, ac yn gwella diogeledd bwyd a maeth. Ymhlith y rhwystrau posibl rhag gweithredu oedd seilwaith cyfyngedig o ran ceginau a lleoedd i fwyta mewn ysgolion, ansawdd a dewis prydau bwyd, a mwy o amser ciwio.

Cyhoeddodd Sefydliad Bevan ymchwil yn 2021ynghylch dichonoldeb a manteision ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.